Y Cyngor

Gwaith y Cyngor

  • Haen isaf llywodraeth leol yw’r Cyngor Cymuned ac sydd agosaf i’r cyhoedd o ran ymateb i ofynion lleol.  Mae gan y Cyngor nifer o  dyletswyddau gan gynnwys :
  • Darparu a chynnal a chadw seddau cyhoeddus
  • Cydweithio gydag Adran Priffyrdd y Sir ar fesurau arafu traffig a gwelliannau i’r priffyrdd
  • Ystyried materion cynllunio
  • Apwyntio cynrychiolwyr i nifer o gyrff lleol ac allanol
  • Enwebu cynrychiolwyr i Fwrdd Llywodraethol ysgolion y gymuned
  • Darparu cymorth ariannol i amrywiaeth o fudiadau gwirfoddol ac elusennol lleol a chenedlaethol
  • Gweithio gyda’r heddlu i ddiogelu’r gymuned
  • Derbyn, trafod a delio gyda chwynion oddi wrth drigolion lleol
  • Dolen gyswllt rhwng trigolion/mudiadau lleol a’r sector statudol i ddatblygu prosiectau yn y gymuned
  • Yn gyfrifol am doledau cyhoeddus
  • Rhoi cefnogaeth ariannol ac fel arall i barciau chwarae’r gymuned.
  • Cefnogi Llyfrgell Pontiets
  • Mewn partneriaeth â Chyngor Sir Caerfyrddin
  • Cynnal a chadw llwybrau cyhoeddus
  • Cyfrifoldeb am oleuadau stryd
  • Darparu a chynnal a chadw llochesi bws

Beth yw strwythur y Cyngor

Mae’r Cyngor yn cynnwys 12 aelod etholedig sy’n cynrychioli 3 Ward, Carwe, Pontiets, Llangyndeyrn.   Etholwyd y Cyngor newydd yn etholiadau mis Mai 2017.  Cynhelir yr etholiad nesaf yn 2022.

Mae’r Cyngor yn cyflogi Clerc sydd hefyd yn gweithredu fel Swyddog Ariannol a Syrfewr.  Fe apwyntir y Clerc trwy recriwtio agored ac ar delerau ac amodau a wirwyd gan y Cyngor.

Cyllideb y Cyngor

Yn 2019/20 mae presept y Cyngor yn £51903.  Defnyddir y presept i ariannu ystod eang o waith, er engraifft:

  • Talu cyflog a threuliau’r Clerc yn fisol + costau swyddfa ac yswiriant
  • Yn flynyddol mae costau cyffredinol e.e. Cyfrifydd, Archwilio’r Cyfrifon, Aelodaeth ‘Un Llais Cymru’
  • Goleuadau stryd, cost trydan, atgyweirio lampau a darparu lampau newydd
  • Clirio a trasio mannau cyhoeddus yn y pentrefi, ac atgyweirio a darparu seddau eistedd newydd
  • Parciau Chwarae – mae’r Cyngor yn talu am yswiriant 6 parc, yn achlysurol yn atgyweirio hen offer a phrynu offer newydd.
  • Talu rhent stafell Llyfrgell Pontiets
  • Cynnal a chadw toledau cyhoeddus Y Meinciau
  • Lloches bysiau – cost glanhau 6 lloches
  • Cyfraniadau ariannol i fudiadau ac elusennau lleol a chenedlaethol (yn unol a Deddf Llywodraeth Leol 1972)
  • Rhoddir lwfans i’r Cadeirydd i’w ddosbarthu i fudiadau o’i dd/dewis.

Bob blwyddyn mae grantiau blynyddol yn cael eu dosbarthu i’r gymuned fel a ganlyn:

  •       £800       i Neuaddau Cyhoeddus
  •       £700       i barciau
  •       £500       i Ysgolion Meithrin o fewn y gymuned    £200 i rhai ar y ffin
  •       £500       i Gylchoedd Ti a Fi o fewn y gymuned     £200 i rhai ar y ffin
  •       £600       i Addoldai ar gyfer cynnal a chadw mynwentydd

Rhaid i’r Cyngor dderbyn cais ysgrifenedig swyddogol a mantolen ariannol cyn y danfonir y grant ymlaen.

Cyfarfodydd y Cyngor

Cynhelir cyfarfodydd y Cyngor unwaith y mis, ac eithrio mis Awst, yn arferol ar y Nos Lun cyntaf yn y mis, onibai ei fod yn Wyl Banc.  Byddwn yn cyfarfod mewn gwahanol leoliadau oddi fewn y gymuned yn ystod misoedd yr haf, ac yn Neuadd Pontiets yn ystod misoedd y gaeaf.  Dechreuir y cyfarfodydd am 7.00 o’r gloch.

Mae croeso i’r cyhoedd fynychu fel gwrandawyr, ond nid oes hawl gan y cyhoedd fod yn rhan o drafodaethau’r Cyngor a ni roddir hawl iddynt leisio barn yn ystod y cyfarfod.   Fodd bynnag, gall amgylchiadau arbennig ganiatau’r Cadeirydd i alw am gyfraniad oddi wrth y cyhoedd.

Cynhelir Cyfarfod Blynyddol ym mis Mai bob blwyddyn, ble yr etholir Cadeirydd ac Is-Gadeirydd newydd.

Mae gan y Cyngor hefyd Is-Bwyllgorau:

  •       Pwyllgor Cyllid a Chynllunio
  •       Pwyllgor Yr Iaith Gymraeg
  •       Pwyllgor Cyswllt Cwar Torcoed
  •       Pwyllgor Y Wefan
  •       Pwyllgor Cyswllt Cwar Crwbin
  •       Pwyllgor y Brigad Dan