Map ward cyngor cymuned Llangyndeyrn
Mae cymuned Llangyndeyrn yn ardal rhwng Caerfyrddin a Llanelli yn rhan isaf Cwm Gwendraeth. Mae ganddi boblogaeth o 3,166 gydag arwynebedd o 47.04km². Mae’n cynnwys pentrefi Carwe, Pontiets, Meinciau, Pedair Heol, Crwbin, Llangyndeyrn, Pontantwn, Pontnewydd, Abaty’r Glyn a rhannau o Fancffosfelen a Chwmisfael. Yn ôl y ffigyrau diweddaraf sydd ar gael mae 58.8% o’r boblogaeth yn siaradwyr Cymraeg (cyfrifiad 2011)
Mae ei choedwigoedd hynafol yn cael eu cofnodi yn y Mabiniogi fel lle hela’r Brenin Arthur am y Twrch Trwyth.
Mae yna dair ysgol gynradd yn y gymuned:
Mae 9 addoldy yn y gymuned : 2 eglwys – Llangyndeyrn a Phontiets a 7 capel – Ebeneser Crwbin, Moreia Meinciau, Nasareth Pontiets, Bethel Llangyndeyrn, Salem Llangyndeyrn, Bethel Carwe, Salem Pedair Heol. Mae rhai yn cynnal eu gwasanaethau yn Gymraeg ac eraill yn ddwyieithog.
Mae nifer o grwpiau cymunedol, diwylliannol, cymdeithasol a chlybiau chwaraeon, yn ogystal a Band Pres a Chôr yn y gymuned.